Mae gweithwyr trenau’n streicio yn ne Lloegr am yr ail ddiwrnod heddiw yn dilyn ffrae ynghylch pwy sy’n gyfrifol am agor a chau drysau.

Fe fydd trafodaethau’n cael eu cynnal yn ystod y dydd rhwng undebau RMT ac ASLEF a’r gwasanaeth cymodi, ACAS.

Fe fu’n rhaid i wasanaeth trenau Southern ganslo mwy na 2,200 o wasanaethau ddoe, gan achosi oedi i filoedd o deithwyr.

Dydy trenau’r cwmni ddim yn teithio heddiw ychwaith, ac mae bws wedi cael ei drefnu i gludo teithwyr o orsaf Victoria i faes awyr Gatwick.

Fe allai’r streic ail-ddechrau am 24 awr ddydd Gwener.

Mae teithwyr wedi cael rhybudd i beidio â theithio ar ddiwrnodau’r streic.