Mae holl wasanaethau trên ar rwydwaith y Southern Railway, sy’n gwasanaethu rhannau helaeth o dde Lloegr, wedi’u gohirio heddiw wrth i yrwyr gynnal streic.

Mae aelodau o’r undeb Aslef yn cynnal streic 48 awr drwy gydol dydd Mawrth a Mercher, ac mae disgwyl gweithredu diwydiannol pellach ddydd Gwener.

Mae’r gyrwyr trenau yn cynnal y streic oherwydd anghydweld ynglŷn â threnau sydd â gyrwyr yn unig a newidiadau i rôl y casglwr tocynnau.

Mae Southern Railway yn annog teithwyr i beidio â cheisio teithio heddiw am fod 2,242 o’u gwasanaethau wedi’u gohirio gan achosi’r helynt mwya’ iddyn nhw am fwy nag ugain mlynedd.

Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Chris Grayling, yn parhau i feio’r undebau am fisoedd o amharu ar wasanaethau Southern, ac maen nhw’n annog yr undebau i drafod â’r cwmni.

Ond cyhuddodd yr undebau Aslef ac RMT weinidogion y Llywodraeth o atal cwmni Southern rhag “trafod a chytuno’n iawn”.