A A Gill (Llun: PA)
Bu farw’r colofnydd papur newydd, A A Gill, fore Sadwrn, Rhagfyr 10. Roedd yn 62 oed, ac wedi bod yn ymladd canser.

Yn ogystal ag ysgrifennu am lefydd bwyta ledled gwledydd Prydain, fe gythruddodd y Cymry ar fwy nag un achlysur gyda’i sylwadau dadleuol am y wlad ac am yr iaith Gymraeg.

Y mis diwetha’ y cyhoeddodd ei fod yn diodde’ o ganser, a hynny wedi i aelodau o’i deulu ddechrau poeni am y ffaith ei fod yn colli pwysau. Bryd hynny hefyd y ddyweddïodd â’i gymar ers dros chwarter canrif, Nicola Formby.

Papur newydd The Sunday Times gyhoeddodd ei farwolaeth brynhawn Sadwrn, gan gadarnhau y bydd ei golofn olaf yn ymddangos yn rhifyn Rhagfyr 11.