Mae newyddiadurwyr wedi cael eu hatal rhag datgelu enwau dau frawd wnaeth ymosod yn “sadistig” ar ddau fachgen.

Mae barnwr yr Uchel Lys wedi rhoi’r hawl i’r brodyr, oedd yn 10 ac 11 oed adeg y troseddu, aros yn anhysbys am gyfnod amhenodol. Cafodd y ddau ddedfryd dan glo ar ôl cyfaddef achosi niwed corfforol difrifol mewn ymosodiad yn Swydd Efrog yn 2009.

Mae’r brodyr, sy’n eu harddegau hwyr, bellach wedi newid eu henwau ac wedi cael eu rhyddhau o’r carchar.

Dywedodd y barnwr, Syr Geoffrey Vos, na ddylid datgelu enwau gwreiddiol y bechgyn na’u henwau newydd “er budd y cyhoedd”.

Dywedodd Phillippa Kaufmann QC, oedd yn amddiffyn y bechgyn, fod yna “bosibilrwydd real” y byddai’r brodyr yn destun ymosodiadau pe bai eu henwau’n cael eu datgelu.

Cafodd y cais ei wneud am fod y brawd iau ar fin cael ei ben-blwydd yn 18 oed.

Cymharu â llofruddiaeth James Bulger

Mae ymosodiad y brodyr ar y ddau frawd wedi cael ei gymharu â llofruddiaeth James Bulger, bachgen dwy flwydd oed, yn 1993.

Dywedodd erlynwyr fod y brodyr wedi denu eu dioddefwyr i ardal dawel yn Edlington, ger Doncaster, ac ymosod arnyn nhw am awr a hanner.

Cafodd y bechgyn eu tagu, eu bwrw â briciau, eu gorfodi i fwyta dail poethion, eu gorfodi i dynnu eu dillad a cham-drin ei gilydd yn rhywiol.

Cafodd rhannau o’r ymosodiad eu recordio ar ffôn symudol.

‘Plentyndod o gam-drin ac esgeuluso’

Yn yr achos yn yr Uchel Lys, dywedodd Phillippa Kaufmann bod y drwgweithredwyr wedi eu “cam-drin a’u hesgeuluso” drwy eu plentyndod.

Cafodd adroddiad ei ddangos oedd yn dweud bod gweithwyr cymdeithasol wedi colli cyfleoedd i’w helpu.