Yvette Cooper, cadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref
Mae pwyllgor seneddol yn lansio ymchwiliad heddiw sy’n bwriadu mynd ar daith o amgylch gwledydd Prydain i holi barn y cyhoedd am fewnfudo.

Fe fydd aelodau seneddol yn teithio ar hyd a lled gwledydd Prydain yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus mewn neuaddau yn gwrando ar safbwyntiau ar y pwnc, yn wyneb y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe roedd mewnfudo i wledydd Prydain wedi hawlio lle amlwg yn y refferendwm ym mis Mehefin eleni.

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Materion Cartref, Aelod Seneddol, Yvette Cooper wrth lansio’r ymchwiliad;  “Mae mewnfudo fel pwnc ymhlith y pwysicaf sy’n wynebu ein gwlad ac fe fydd yn ganolog i gytundeb Brexit.

“Fe wnaeth Prydain bleidleisio dros newid, yn enwedig ar symudiad pobol, ond mae yna brinder trafodaeth ar y math o ddiwygiadau ar reoli mewnfudo neu sut y gallwn ni gael y cytundeb gorau.

“Mae llywodraethau olynol wedi methu ar fewnfudo ac mae pryder y cyhoedd wedi cynyddu,” meddai wedyn.

“Ond eto mae natur y drafodaeth wedi pegynnu gan wneud hi’n anodd I gael consensws ar beth ddylid ei wneud yn ei le. Os nad oes consensws y tu cefn i rannau mwyaf pwysig Brexit, yna, fe fydd yn yn datod.”