Mae darogan y gallai Brexit olygu bod nifer net mewnfudwyr i wledydd Prydain ostwng o 150,000, yn ôl astudiaeth newydd.
Yn ôl arbenigwyr, gallai gostyngiad o’r fath gael effaith economaidd hirdymor sylweddol, gyda GDP yn gostwng hyd at 5.4% y pen yn 2030.
Gallai’r gostyngiad yn nifer y mewnfudwyr gael yr un effaith â cholli cyfleoedd i fasnachu, meddai’r arbenigwyr o NIESR (Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol).
Ond gallai llai o weithwyr, ar y llaw arall, olygu bod cyflogau gweithwyr o wledydd Prydain godi cymaint â 0.5% erbyn 2030.
Yr ystadegau
Yn ôl y ffigurau diweddaraf, daeth 284,000 o fewnfudwyr o wledydd Ewrop i wledydd Prydain yn ystod y flwyddyn hyd at Fehefin eleni, gyda 189,000 yn dod i weithio – y nifer fwyaf erioed.
Roedd y gwahaniaeth net – y gwahaniaeth rhwng y rhai sy’n cyrraedd a’r rhai sy’n gadael – yn 335,000, dros dair gwaith yn fwy na tharged Llywodraeth Prydain.
Mae Niesr yn darogan y gallai’r ffigwr net ostwng 91,000 y flwyddyn hyd at 2020, ond y gallai godi i 150,000 pe bai rheolau llymach yn cael eu cyflwyno.
Gallai hynny olygu bod GDP yn gostwng 0.63% i 1.19%, a GDP y pen o 0.22% a 0.78%.
Effaith Brexit
Dywedodd llefarydd ar ran NIESR nad yw’r un astudiaeth hyd yma wedi ystyried effaith gostyngiad sydd wedi cael ei achosi gan Brexit.
“Mae ein hamcangyfrif yn awgrymu y bydd yr effaith negyddol ar GDP y pen yn sylweddol, yn agos i’r rheiny a ddeilliodd o ostyngiad mewn masnach.”