Mae’r achos llys sy’n gwrthwynebu dyfarniad yr Uchel Lys ynghylch y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn parhau heddiw am y trydydd diwrnod.
Llywodraeth Prydain sy’n gwrthwynebu’r dyfarniad.
Enillodd Gina Miller, rheolwraig cronfa fuddsoddi, achos yn erbyn y Llywodraeth yn yr Uchel Lys fis diwethaf oedd yn golygu nad oes gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May rym i weithredu Cymal 50 Cytundeb Lisbon er mwyn cychwyn ar y broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd heb ganiatâd y Senedd gyfan.
Bydd 11 o farnwyr y Goruchaf Lys yn clywed rhagor o dystiolaeth heddiw wrth i dyrfaoedd heidio i’r llys ar gyfer y gwrandawiad.
Mae cyfreithwyr ar ran y Llywodraeth yn dadlau bod ganddyn nhw rym i benderfynu pryd y byddan nhw’n gweithredu’r cymal yn dilyn canlyniad y refferendwm ar Fehefin 23.
A’r ddadl o’r ochr arall…
Ond y gwrthddadl yw fod rhaid i’r Senedd gyfan wneud y fath benderfyniad.
Mae Theresa May eisoes wedi dweud y bydd hi’n datgan erbyn mis Mawrth pryd y bydd hi’n dechrau’r broses ffurfiol.
Mae disgwyl i’r achos ddod i ben fory, a dyfarniad yn cael ei roi yn y flwyddyn newydd.