Llun: PA
Mae prif swyddog Brexit Ewrop, Michael Barnier, wedi annog y Deyrnas Unedig i “bwyllo a thrafod” wrth iddo gyhoeddi terfyn amser o 18 mis i ddod a’r trafodaethau am gytundeb i ben.

Er bod Erthygl 50 yn caniatáu dwy flynedd i ddod i gytundeb, mae Michael Barnier  wedi dweud bod yn rhaid i’r trafodaethau ddod i ben yn gynt na hynny er mwyn caniatáu amser i’r Cyngor Ewropeaidd, Senedd Ewrop a’r DU i sicrhau cytundeb.

Os yw’r Prif Weinidog Theresa May yn cadw at ei hamserlen o ddechrau trafodaethau ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, fe fyddai’n golygu bod yn rhaid dod i gytundeb erbyn mis Hydref 2018, er mwyn paratoi at adael yr Undeb Ewropeaid yn 2019, meddai Michael Barnier.

‘Parhau i gyfrannu i Frwsel’

Un sefyllfa posib, yn ôl Michael Barnier, yw bod y Deyrnas Unedig yn parhau i gyfrannu at gyllideb Brwsel ar ôl Brexit er mwyn medru gwneud y defnydd gorau o’r farchnad sengl.

Er hyn cyfrifoldeb y Deyrnas Unedig, yn ôl cyn-weinidog tramor Ffrainc, fyddai amlinellu ei hamcanion er mwyn medru sefydlu perthynas o’r fath.

Ni fyddai’r trefniant o werth oni bai ei bod yn paratoi “llwybr tuag at berthynas yn y dyfodol” yn ôl Michael Barnier ond roedd yn derbyn bod dim modd gwneud popeth “yn ystod 15 i 18 mis o drafodaethau”.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg dywedodd Michael Barnier: “Rydyn ni’n barod. Pwyllwch a thrafodwch.”