Alex Salmond. Llun: PA
Byddai gweithredu proses Erthygl 50 heb gydsyniad deddfwriaethol gan Senedd yr Alban yn “arwain at argyfwng cyfansoddiadol” yn ôl Alex Salmond.

Dywed cyn-brif weinidog yr Alban fod llywodraeth Prydain yn ymddangos yn fwyfwy pengaled wrth iddi fynd i’r Goruchaf Lys yfory.

Mae’r llywodraeth yn gofyn i’r Goruchaf Lys wrthdroi penderfyniad gan yr Uchel Lys fod yn rhaid i’r Prif Weinidog geisio cymeradwyaeth Aelodau Seneddol i gychwyn y broses o dynnu Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd.

“Petai’r Goruchaf Lys yn penderfynu fod angen cydsyniad deddfwriaethol gan Senedd yr Alban, byddai’n rhoi Senedd yr Alban, ac yn enwedig Nicola Sturgeon, mewn sefyllfa gref iawn,” meddai.

“A phetai Senedd yr Alban yn pleidleisio yn erbyn y cynnig, byddai’n sicr o fod argyfwng cyfansoddiadol y byddai’n rhaid ei ddatrys.”

Buddiannau’r Alban

Ychwanegodd y gallai argyfwng o’r fath fod yn beth da i’r Alban gan y byddai’n rhoi’r Albanwyr mewn sefyllfa hynod gref o ran sicrhau buddiannau’r Alban yn y trafodaethau.

“Ar hyn o bryd, mae llywodraeth Prydain mewn brwydr yn erbyn gweddill Ewrop, yn erbyn y Goruchaf Lys, elfennau o fewn y Blaid Geidwadol a’r gymuned fusnes,” meddai.

“Mae’n gwestiwn a fydd arnyn nhw eisiau ychwanegu pobl yr Alban a llawer o aelodau Tŷ’r Cyffredin at y rhai sy’n eu herbyn.

“Weithiau mewn gwleidyddiaeth, mae yna ben draw i faint o rymoedd y gallwch chi eu herio ar yr un pryd.”