Jeremy Corbyn (llun: PA)
Rhaid i’r chwith ddal gafael yn ei egwyddorion sosialaidd yn wyneb ymchwydd o gefnogaeth i bleidiau popiwlist asgell dde, yn ôl Jeremy Corbyn.

Dywed arweinydd Llafur mai’r rheswm y mae pleidiau’r chwith yn colli tir ledled Ewrop yw oherwydd eu bod wedi gwanhau eu hegwyddorion i’r graddau nad oedd pleidleiswyr yn gwybod dros beth maen nhw’n sefyll.

Mewn araith i Blaid Sosialwyr Ewrop yn Prâg dywedodd fod y chwith yn rhy barod i ‘ymddiheuro’ dros fodel economaidd aflwyddiannus yn lle bod yn gyfrwng newid.

Caiff ei sylwadau eu gweld fel beirniadaeth o record Llafur Newydd o dan Tony Blair a Gordon Brown ac fel rhybudd i ffigurau blaenllaw yn ei blaid fel Tom Watson sydd wedi bod yn galw am reolaeth dynnach ar fewnfudo o’r Undeb Ewropeaidd.

“Allwn ni ddim cefnu ar ein hegwyddorion sosialaidd oherwydd bod pobl yn dweud mai dyma’r unig ffordd i ennill grym. Mae hyn yn lol,” meddai.

“Os cawn ein gweld fel amddiffynwyr y drefn sydd ohoni sut allwn ni ddigwyl i bobl droi atom pan fo’n amlwg fod y drefn wedi methu? Rhaid inni sefyll dros newid go iawn.

“Allwn ni ddim gadael i bleidiau popiwlist y dde fwydo ar bryderon pobl ac ar amodau sy’n gwaethygu, gan feio’r mwyaf bregus am gamweddau cymdeithas.”