Nicola Sturgeon (llun llywodraeth agored)
Mae’n gwbl annerbyniol fod y Canghellor Phillip Hammond, yn diystyru’r posibilrwydd o gytundeb Brexit ar wahân i’r Alban, yn ôl prif weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.

Mewn ymweliad â Chaeredin yr wythnos yma, roedd y Canghellor wedi dweud nad oedd trefniadau arbennig i’r Alban ar fewnfudo a masnach yn realistig.

Roedd hyn ar ôl iddo addo y byddai’n “ystyried yn llawn” gynigion llywodraeth yr Alban i ddiogelu lle’r Alban yn Ewrop.

Mae disgwyl i Nicola Sturgeon gyhoeddi yn yr ychydig wythnosau nesaf restr o ddewisiadau o ran cadw’r Alban ym marchnad sengl Ewrop, hyd yn oed os yw’r Deyrnas Unedig yn gadael.

“Dw i ddim yn honni y bydd hyn yn hawdd,” meddai Nicola Sturgeon. “Fe fydd cael trefniant arbennig i’r Alban yn gymhleth, ond mae’n gwbl hanfodol fod llywodraeth Prydain yn gwrando ar ein cynigion os oes ganddyn nhw unrhyw barch ar lais yr Alban.

“Y cyfan mae diystyru trahaus o’r gwahanol ddewisiadau ar gyfer yr Alban yn ei wneud yw anfon neges nad yw llais yr Alban yn cyfrif – a dyw hyn ddim yn dderbyniol.

“Os ma dyna yw neges llywodraeth Prydain, y bydd yn rhaid inni dderbyn Brexit caled, waeth beth mae’r Alban yn ei feddwl neu ei eisiau neu’n pleidleisio drosto, does ryfedd fod y cwestiwn o annibyniaeth i’r Alban yn codi eto.”