Mae carcharor rhyfel o’r Almaen wedi gadael bron i £400,000 i bentref bach yn yr Alban i ddangos ei werthfawrogiad o’r caredigrwydd a ddangoswyd tuag ato pan oedd yno.

Cafodd Heinrich Steinmeyer, aelod o’r Waffen SS yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ei ddal yn Ffrainc pan oedd yn 19 oed, ac aed ag ef i wersyll carcharorion rhyfel ger pentref Comrie yn Swydd Perth yn yr Alban.

Fe fu farw yn 2013 yn 90 oed ar ôl bod yn ymwelydd cyson o’r pentref ar hyd y blynyddoedd, ac mae ymddirieolaeth gymunedol y pentref bellach wedi derbyn rhodd o £384,000 trwy ei ewyllys.

Dywedodd yn ei ewyllys: “Hoffwn fynegi fy niolchgarwch i bobl yr Alban am y caredigrwydd a’r haelioni yr wyf wedi’i dderbyn yn yr Alban yn ystod fy ngharchariad ac wedi hynny.”