(llun: PA)
Mae’n debygol y bydd Network Rail yn colli’r cyfrifoldeb dros gledrau rheilffyrdd, a phwerau newydd yn cael eu trosglwyddo i gwmnïau trenau.

Dywed adroddiad yn y Daily Telegraph fod yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Chris Grayling yn bwriadu rhoi cyfrifoldeb am y tro cyntaf i gwmnïau trenau fel Virgin, Trenau Arriva Cymru a ScotRail am gynnal a chadw ac atgyweirio’r cledrau.

Mae’n ymddangos fod Chris Grayling o’r farn y byddai cael gwared ar fonopoli’r cwmni cyhoeddus Network Rail yn symbylu’r cwmnïau trenau i wneud y gwaith yn gyflymach, gan leihau oedi ac o bosibl leihau prisiau tocynnau.

Mae disgwyl y bydd Chris Grayling yn gwneud cyhoeddiad manwl mewn araith ddydd Mawrth.