Y difrod wedi Storm Desmond yn Carlisle flwyddyn yn ôl (llun: PA)
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn galw am fesurau i ddiogelu cefn gwlad rhag difrod llifogydd.

Daw eu galwad wrth i effeithiau Storm Desmond yng ngogledd Lloegr barhau flwyddyn yn ddiweddarach.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn dal wrthi’n clirio’r difrod i’w tir yn Ardal y Llynnoedd ac mae cannoedd ffermwyr yn dal i ddisgwyl am arian argyfwng i adfer tir amaethyddol.

Storm Desmond oedd y drydedd storm fawr i daro Ardal y Llynnoedd mewn 10 mlynedd, ac mae’r Ymddiriedolaeth yn galw am fesurau naturiol i leihau llifogydd fel plannu coed ac adfer cyrsiau naturiol afonydd.

“Gyda stormydd mawr yn digwydd yn amlach, mae angen inni wneud Ardal y Llynnoedd yn fwy gwydn i wrthsefyll llifogydd,” meddai Mike Innerdale, un o gyfarwyddwyr yr Ymddiriedolaeth yn Ardal y Llynnoedd.