Mae pêl-droedwyr amlwg wedi bod yn pwyso ar unrhyw chwaraewyr sydd wedi dioddef camdriniaeth yn y gorffennol i ddatgelu hynny.

Dywed cyn-gapten Lloegr, Alan Shearer fod yr hanesion diweddaraf wedi peri sioc a thristwch iddo, ac mae’n apelio ar i ddioddefwyr gysylltu â llinell gymorth pêl-droed yr NSPCC.

Mae’r elusen sy’n ceisio atal creulondeb yn erbyn plant wedi derbyn 860 o alwadau mewn wythnos.

“Mae gan bob clwb bellach bobl benodol sydd â’r dasg o gadw plant yn ddiogel, ond mae bob amser fwy angen ei wneud,” meddai Alan Shearer.

“Rhaid i bob clwb, o’r lleiaf un, barhau i edrych ar beth maen nhw’n ei wneud i rwystro camdriniaeth i unrhyw blant heddiw ac yn y dyfodol.”

Mae capten presennol Lloegr, Wayne Rooney, hefyd ymysg ffigurau amlwg sy’n cymryd rhan mewn fideo ar ddiogelu plant sydd wedi’i gyhoeddi gan yr NSPCC a chymdeithas bêl-droed Lloegr.

“Mae’n bwysig fod pawb yn gwybod sut i godi unrhyw bryderon am les y plentyn,” meddai.

“Os ydych chi’n fachgen neu’n ferch ifanc, ac yn ofidus, wedi’ch brifo neu wedi dychryn gan y ffordd mae rhywun yn ymddwyn gyda chi, gadewch i rywun y gallwch ymddiried ynddyn nhw wybod.”

Daw apeliadau’r pêl-droedwyr wrth i nifer cynyddol o heddluoedd ymchwilio i honiadau o hyfforddwyr yn cam-drin plant.