Mae cyn-wraig y canwr a’r drymiwr Phil Collins yn dwyn achos yn ei erbyn ar ôl cael ei chythruddo gan gynnwys ei hunangofiant.

Yn ôl Andrea Bertorelli mae darnau o’r llyfr wedi pardduo ei henw da gan achosi straen aruthrol iddi.

Fe fu’r ddau briodi ym 1975 ac fe barodd y briodas am bum mlynedd.

Cafodd yr hunangofiant Not Dead Yet ei chyhoeddi ym mis Hydref ac mae’n adrodd hanes yrfa gyda’r band Genesis, ynghyd â’i briodasau a’i ysgariadau.

Cyhoeddwyd datganiad ar ran Andrea Bertorelli yn dweud: “Am sawl blwyddyn rwyf wedi bod yn destun sylw yn y cyfryngau oherwydd fy mherthynas i gyda fy nghyn-ŵr, Phil Collins.

“Rwyf wedi cael fy mhortreadu fel rhywun sy’n dinistrio’r aelwyd, y fam wael ac yn un fu’n chwilio am arian.”

“Straen aruthrol”

Mae Andrea Bertorelli yn honni fod cynnwys y llyfr wedi pardduo ei henw da: “Mae’r llyfr yn cynnwys nifer o ddatganiadau ffug amdana i ac am fy mhriodas gyda Phil sydd nid yn unig wedi achosi niwed i fy enw, ond wedi achosi straen aruthrol.

“Dw i’n berson sy’n gwerthfawrogi preifatrwydd ac nid ydw i erioed wedi chwilio am sylw, hyd yn oed yn ystod fy mhriodas â Phil.”