Boris Johnson
Ni fydd Llywodraeth Prydain  yn ceisio atal unrhyw gydweithio agosach rhwng gwledydd Ewrop ar faterion amddiffyn ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor.

Dywedodd Boris Johnson y bydd y gwledydd Prydain yn parhau i arddel perthynas agos ag “Ewrop cryf” yn dilyn Brexit ac na fyddai’n ceisio atal camau tuag at greu polisi amddiffyn ar y cyd.

Mae gan Frwsel gynlluniau i greu sefydliad amddiffyn ochr yn ochr â Nato, ac mae Boris Johnson wedi awgrymu bod rhwydd hynt iddyn nhw wneud hynny.

Ond ychwanegodd mai’r flaenoriaeth ddylai fod i gyrraedd targed Nato o wario 2% o gynnyrch domestig gros [GDP] ar amddiffyn.

Brexit ‘ddim yn hiliol’

Mynnodd Boris Johnson nad oedd y bleidlais Brexit yn arwydd o wledydd Prydain yn troi cefn ar y byd a galwodd ar i bobol beidio ag ystyried pobol Prydain fel pobol hiliol.

Dywedodd y dylai gwledydd Prydain fod “yn fwy agored gyda’r byd nag erioed o’r blaen” yn dilyn y refferendwm.

Gwrthododd awgrymiadau y byddai o fudd i Brydain pe bai’r Undeb Ewropeaidd yn chwalu, gyda gwledydd eraill ar y ffordd allan hefyd.

“Rydym ni am gael Undeb Ewropeaidd cryf ac rydym am gael perthynas cryf rhwng Teyrnas Unedig gryf ac Undeb Ewropeaidd gryf,” meddai.

“Dydyn ni ddim yna i flocio na rhwystro camau tuag at integreiddio yn yr Undeb Ewropeaidd os dyna yw’r hyn maen nhw am gael. Rydym ni yna i gefnogi ac adeiladu perthynas gref.”

Mynnodd hefyd nad oedd y bleidlais i adael wedi’i harwain gan “estron gasineb” a bod y penderfyniad yn un “hael ac agored tuag at weddill y byd”.