Mae bron i chwarter o luoedd heddlu gwledydd Prydain yn ymchwilio i honiadau o gam-drin rhywiol o fewn y maes pêl-droed wrth i bron i nifer y bobol sydd wedi gwneud cwyn ffurfiol i’r heddlu godi i  350.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn un o’r lluoedd hynny.

Daw wedi i elusen yr NSPCC ddweud ei fod wedi derbyn 860 o alwadau ffôn wythnos ar ôl lansio llinell ffon arbennig i ddelio a chwynion o gam-drin hanesyddol yn y maes.

Mae cyn-bêl droediwr o Ben Llyn, Matthew Monaghan, wedi bod yn siarad â rhaglen y Post Cyntaf am ei brofiadau o gael ei gam-drin yn rhywiol pan yn ifanc.

Dywedodd pennaeth yr Asiantaeth Bêl-droed, Martin Glen, ei fod yn barod i gosbi unrhyw glwb pêl-droed sy’n euog o “guddio” honiadau neu wybodaeth am achosion yn y gorffennol.

Mae’r corf yn cynnal ymchwiliad annibynnol ar y cyd â’r heddlu.