Mae Nwy Prydain wedi cyhoeddi y bydd yn rhewi ei brisiau trydan a nwy dros y Dolig, ond mae arbenigwyr wedi rhybuddio y gall prisiau godi o 10% y flwyddyn nesa’.

Bydd y penderfyniad i rewi prisiau yn cael effaith ar filiau tua chwe miliwn o gartrefi, yn ôl y cwmni.

Daw’r weithred yn dilyn cyhoeddiad cwmni SSE y mis diwetha’ i rewi prisiau dros y Nadolig.

Ar yr olwg gynta’, mae cwsmeriaid wedi canmol y penderfyniad ond mae arbenigwyr yn darogan ei fod yn gam i geisio lleddfu’r effaith o gynnydd mewn prisiau’r flwyddyn nesaf.

Bydd hyn yn digwydd yn rhannol yn sgil effaith Brexit ar y bunt.