Theresa May Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Fe fydd Theresa May yn cadeirio cynhadledd gyda Phrif Weinidog Gwlad Pwyl Beata Szydlo heddiw wrth iddi geisio ennyn cefnogaeth cyn i’r trafodaethau Brexit ddechrau.

Mae Beata Szydlo wedi dweud y gallai fod yn bartner adeiladol yn y broses negydu ond fe rybuddiodd y byddai’n rhaid cyfaddawdu yn ystod y trafodaethau rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd uwch weinidogion o’r ddwy wlad yn cymryd rhan mewn cyfarfod i drafod cyd-weithio ar ddiogelwch a chryfhau cysylltiadau busnes a diwylliannol rhwng y DU a Gwlad Pwyl.

Y farchnad sengl

Yn y cyfamser mae gweinidogion yn cael eu herio i ddiystyru cytundeb Brexit “caled” gan Aelodau Seneddol o dair plaid wrth i adroddiad newydd drafod cysylltiadau’r DU a’r farchnad sengl.

Yn ôl adroddiad y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes (CEBR) fe allai ceisio sicrhau cytundeb masnach sector-wrth-sector gyda’r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit gymryd hyd at 25 mlynedd a golygu y gallai rhai rhannau o economi Prydain fod ar eu colled.

Fe fydd y cyn-ddirprwy Brif Weinidog Nick Clegg yn ymuno a’r cyn-weinidog Ceidwadol Anna Soubry a’r AS Llafur Chuka Umunna i gyflwyno canfyddiadau’r ymchwil fel rhan o’u hymgyrch i sicrhau bod y DU yn aros yn y farchnad sengl.