Nicola Sturgeon a Carwyn Jones (llun: PA)
Mae prif weinidogion Cymru a’r Alban wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn cadarnhau eu nod o gynnal mynediad llawn a dilyffethair i Farchnad Sengl Ewrop.

Mewn datganiad ar y cyd ar ôl trafodaethau yn Uwch-gynhadledd Cyngor Prydain ac Iwerddon yng Nghaerdydd ddoe, dywedodd Nicola Sturgeon a Carwyn Jones y byddan nhw’n gweithio gyda’i gilydd i gadw Prydain yn y Farchnad Sengl.

Dywedodd y ddau hefyd y byddan nhw’n gwrthsefyll unrhyw ymgais gan lywodraeth Prydain i danseilio’r setliad datganoli.

Os bydd fframweithiau rheoleiddio’r Undeb Ewropeaidd mewn meysydd polisi datganoledig yn dod i ben, mater i lywodraethau Cymru a’r Alban fyddai penderfynu datblygu fframweithiau ledled Prydain ai peidio, yn ôl y ddau arweinydd.

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, meddai Nicola Sturgeon:

“Roedd y cyfarfod yn gyfle defnyddiol i drafod rhai o bryderon y ddwy wlad ynghylch Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae Cymru a’r Alban wedi siarad yn uchel a chlir – statws y Farchnad Sengl yw’r unig ffordd o warchod nid yn unig economi’r Alban a Chymru ond hefyd Prydain yn ei chyfanrwydd.”

Ychwanegodd Carwyn Jones:

“Cafwyd trafodaeth adeiladol ynghylch ein pryderon cryf am y rhagolygon o lywodraeth Prydain yn ceisio Brexit caled.

“Byddwn yn dal i weithio gyda’n gilydd i adeiladu clymblaid o blaid mynediad llawn a dilyffethair i’r Deyrnas Unedig i’r Farchnad Sengl.

“Rydym yn wynebu gwahanol sefyllfaoedd yn ein gwledydd ein hunain, ond lle gallwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau’r amcanion hynny, byddwn yn parhau i wneud hynny.”