Senedd yr Alban
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud nad yw’n gweld sut y gallai yr Alban fynnu cytundeb Brexit ar wahân I weddill gwledydd Prydain.

Mae Nicola Sturgeon wedi dweud yn y gorffennol ei bod hi a Llywodraeth yr Alban yn edrych ar ffyrdd i barhau’n rhan o’r Farchnad Sengl Ewropeaidd drwy ystyried opsiynau fel Asiantaeth Marchnad Rydd Ewropeaidd (EFTA) ac Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA).

Ond yn ôl Carwyn Jones, byddai trefniadau mynediad at farchnad “i’r gogledd o’r ffin yn golygu swyddi tollau ar y ffin”.

“Does dim ffordd arall i ddelio â hynny,” meddai.

Daw ei sylwadau wrth i arweinwyr cenhedloedd eraill gwledydd Prydain gyfarfod y Cyngor Prydain-Iwerddon ym Mro Morgannwg.

‘Dim yn amhosib’

Cyfeiriodd Carwyn Jones hefyd at achos yr Ynys Las a adawodd yr Undeb Ewropeaidd yn 1982.

“Os mai chi yw’r Ynys Las a’ch bod yn bell o dir mawr Ewropeaidd yna mae’n haws, ond fel arall sut ydych chi’n rheoli llif y nwyddau sy’n cael eu masnachu ar amodau gwahanol ar yr un ynys?”

Wrth ymateb ar BBC Radio Scotland, dywedodd Ysgrifennydd Materion Allanol yr Alban Fiona Hyslop, “does dim byd yn amhosib”.

“Rydyn ni mewn tiriogaeth newydd ac mae hynny’n rhan o’r hyn rydym yn drafod gyda llawer o weinyddiaethau.”