Cyfiawnder (Tom Hisgett CCA2.0)
Dyw pobol dlawd ddim yn gallu fforddio’r cymorth cyfreithiol sydd ei angen arnyn nhw, yn ôl adroddiad newydd.

Mae yna ddwy lefel wahanol o gyfiawnder ac mae’r system ei hun mewn “argyfwng”, yn ôl Comisiwn dan arweiniad y Llafurwr, yr Arglwydd Bach.

Mae eu hadroddiad yn dweud bod torri cymorth cyfreithiol mewn llawer o feysydd wedi arwain at gaeldi ac anghyfiawnder ac maen nhw’n galw am newidiadau sylfaenol.

‘Rhaid herio a newid’

“Dyw’r bobol dlota’ yn ein cymdeithas ddim bellach yn gallu derbyn y cymorth cyfreithiol y maen nhw ei angen,” meddai’r Arglwydd Bach.

“Rhaid herio a newid y sefyllfa anfoddhaol hon. Yr adroddiad yma yw’r man cychwyn yn ein gwaith i ailgynllunio’r system gyfiawnder fel ei bod yn gwewithio i bawb.”

Roedd y toriadau wedi digwydd  yn sgil y Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr a ddaeth i rym yn 2012.

Yr effaith

Ers pasio’r ddeddf, meddai’r adroddiad, mae nifer y canolfannau cyfreithiol sy’n cynnig cymorth rhad wedi syrthio ac mae nifer yr achosion sy’n dod gerbron tribiwnlysoedd cyflogaeth wedi mwy na haneru.

Enghraifft arall, meddai’r adroddiad, yw’r cymorth brys sydd ar gael i blant a phobol ifanc mewn rhai achosion.

Tra oedd Llywodraeth Prydain wedi sôn am roi cymorth i 847 o blant a 4,888 o bobol ifanc bob blwyddyn, mae’r adroddiad yn dweud mai dim ond 8 o blant a 28 o bobol ifanc a gafodd gymorth mewn 18 mis.

Ateb y Llywodraeth

Yn ôl llefarydd ar ran  y Weinyddiaeth Gyfiawnder, maen  nhw’n gwario £1.5 biliwn ar gymorth cyfreithiol bob blwyddyn ac maen nhw wedi gorfod sicrhau bod y cymorth yn mynd i’r achosion lle mae mwya’ o angen – achosion lle mae bywyd neu ryddid mewn peryg.