Mae dau ddyn yn eu harddegau wedi cael eu trywanu y tu allan i’w coleg yn ninas Manceinion.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Goleg Manceinion am 11.10yb fore Iau.

Roedd bachgen 17 oed wedi’i drywanu yn ei frest, a dyn 18 oed arall wedi’i drywanu yn ei gefn. Fe gafodd y ddau eu cludo i’r ysbyty i dderbyn triniaeth.

Mae swyddogion heddlu Greater Manchester wedi canfod cyllell ar y safle, y ardal Chorlton Street o’r ddinas, ac maen nhw’n apelio am wybodaeth ynglyn â’r digwyddiad.