Mae Canghellor y Trysorlys, Philip Hammond, wedi addo £400,000 miliwn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru i wario ar isadeiledd dros y bum mlynedd nesa’.
Yn ei ddatganiad economaidd cynta’ ers dod i’w swydd, fe gyhoeddodd hefyd na fydd yn parhau â’r drefn o gyhoeddi dau ddatganiad mawr bob blwyddyn ar bolisïau economaidd. Yn hytrach, o ddiwedd 2017 ymlaen, dim ond yn yr hydref y bydd yn cyhoeddi newidiadau cyllidebol.
Bydd datganiad yn cael ei wneud y gwanwyn nesa’, ond dim ond adlewyrchu ar gyflwr ariannol gwledydd Prydain fydd o bryd hynny.
Rhybuddiodd bod Brexit wedi cyflwyno cyfnod o ansicrwydd economaidd ac y bydd yr economi yn tyfu yn arafach na’r disgwyl ond ei fod yn ffyddiog y bydd yn medru cwrdd â heriau’r dyfodol.
Cymru
Ar lawr Tŷ’r Cyffredin, dywedodd ei fod yn cefnogi Cynlluniau Dinesig fel rhai Abertawe a gogledd Cymru.
Fe ddywedodd hefyd y bydd cyllid ar gael er mwyn cefnogi amgueddfa filwrol ym Mae Caerdydd.
Roedd llawer o’i fesurau yn ymwneud â Lloegr yn unig, ac ni fydd cyhoeddiadau fel y gwaharddiad ar ffïoedd gan gwmnïau gwerthu tai yn effeithio Cymru.
Cyflogau
Dywedodd y byddai’n cynyddu’r isafswm cyflog o £7.20 yr awr i £7.50 erbyn Ebrill 2017 – sy’n golygu cynnydd o tua £500 y flwyddyn i weithiwr llawn amser.
Mae hefyd yn dweud y bydd y swm all rhywun ennill heb orfod talu treth incwm yn codi o £11,000 i £11,500 erbyn mis Ebrill.
Trethi
Newid arall oedd y lleihad mewn treth gorfforaethol i 17%.
Fe fydd hefyd yn gwneud i fusnesau mewn ardaloedd gwledig dalu hyd at £2,900 y flwyddyn yn llai o drethi trwy gynyddu’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Gwledig.
Isadeiledd
Yn sgil mwy o wariant ar isadeiledd yn Lloegr, fe fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £400m i’w wario dros bum mlynedd ar brosiectau cyfalaf.
“Mae’r cynnydd sylweddol mewn gwariant ar isadeiledd rydw i’n ei gyhoeddi yn cynrychioli cynnydd sylweddol i gyllidebau drwy fformiwla Barnett,” meddai.