Mae disgwyl i’r rheithgor yn achos dyn sy’n cael ei gyhuddo o lofruddio Jo Cox ddechrau trafod y dyfarniad heddiw.

ae Thomas Mair, 53, yn cael ei gyhuddo o saethu a thrywanu’r fam i ddau wrth iddi gyrraedd llyfrgell Birstall yn ei hetholaeth ar 16 Mehefin – wythnos cyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

Clywodd y llys bod y gŵr, yr honnir i fod yn eithafwr asgell dde, wedi gweiddi “Prydain yn gyntaf” yn ystod yr ymosodiad a bod ganddo eitemau yn gysylltiedig â’r Natsïaid yn ei gartref yng ngorllewin Swydd Efrog.

Roedd Jo Cox, 41 oed, wedi bod yn ymgyrchu o blaid aros yn rhan o Ewrop cyn y refferendwm.

Mae Thomas Mair yn gwadu llofruddio Jo Cox, bod a dryll yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflawni trosedd,  ac o fod a chyllell yn ei feddiant.

Fe wnaeth y barnwr Mr Justice Wilkie ohirio’r achos tan 10yb ddydd Mercher, gan ddweud y bydd yn gorffen ystyried y dystiolaeth bryd hynny cyn gofyn i’r rheithgor ystyried y dyfarniad.