Y diweddar Charles Kennedy (llun: PA)
Dywedodd Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, fod colled fawr ar ôl cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, y diweddar Charles Kennedy.

Fe fyddai cyn-AS Ross, Skye a Lochaber, a fu farw’r haf diwethaf yn 55 oed, wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr yn y ddadl ar refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ac yn erbyn Brexit, meddai.

Fe wnaeth ei sylwadau wrth draddodi ail ddarlith goffa Charles Kennedy yn Fort William neithiwr.

“Roedd Charles yn gefnogwr pybyr i’r Undeb Ewropeaidd,” meddai. “Fe wnaeth ddisgrifio’i hun fel Ucheldirwr yn gyntaf, Albanwr yn ail, Prydeiniwr yn drydydd ac Ewropead yn bedwerdydd. Roedd yn falch o’r holl hunaniaethau hynny ac yn teimlo’n gyffyrddus â nhw.

“Nid y fi yw’r unig un sydd wedi meddwl dros y flwyddyn ddiwethaf am y cyfraniad y gallai Charles fod wedi’i wneud i’r trafodaethau drwy Brydain a’r aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae colled fawr wedi bod am ei synnwyr, ei hiwmor a’i ddoethineb yn y ddadl honno.”