Fe lwyddodd Sioe Apêl fyw Plant mewn Angen i godi £46,624,259 neithiwr – cynnydd o bron i £10 miliwn o gymharu â’r llynedd.

Yn ystod y noson, cafwyd llu o deyrngedau i Terry Wogan a fu farw ym mis Ionawr. Roedd y cyflwynydd poblogaidd wedi bod yn arwain sioeau Plant mewn Angen i’r BBC am 35 mlynedd.

Ers y digwyddiad cyntaf yn 1980 mae’r elusen wedi codi dros £600 miliwn, ac mae’n cefnogi 2,400 o wahanol brosiectau ledled Prydain ar hyn o bryd.