Mae merch bedair ar ddeg oed sydd wedi marw o gancr wedi ennill yr hawl i rewi ei gweddillion rhag ofn y byddai modd ei hadfywio gyda datblygiadau triniaeth cancr y dyfodol.

Ond yn ôl ei chyfreithiwr, Zoe Fleetwood, nid yw dyfarniad y Barnwr yn Uchel Lys Llundain ar yr achos hwn yn “garreg filltir ar hawliau cadwraeth cryonig.”

“Mae’n ddyfarniad ar anghydweld rhwng rhieni,” meddai gan esbonio fod mam y ferch yn cefnogi ei dymuniad o ran cadwraeth cryonig, ond nad oedd ei thad.

Roedd y ferch oedd yn byw yn ardal Llundain ac yn diodde’ o fath prin o gancr yn dymuno i’w gweddillion fynd i uned arbenigol ar gyfer cadwraeth cryonig yn yr Unol Daleithiau.

Roedd hi hefyd yn dymuno mai ei mam fyddai’n cael penderfynu beth fyddai’n digwydd i’w chorff wedi iddi farw.

Ac yn dilyn gwrandawiad preifat o dan awdurdod teuluol yn Uchel Lys Llundain fe glywodd y ferch y dyfarniad ychydig ddyddiau cyn iddi farw ym mis Hydref.