Bydd £370 miliwn yn cael ei wario dros y ddegawd nesaf ar ailaddurno cartref Brenhines Lloegr.
Mae’n bosib y bydd yn rhaid iddi adael Palas Buckingham dros dro.
Yn ôl arbenigwyr mae’r ailaddurno a’r ailwampio yn “hanfodol” a bydd angen gosod boileri, milltiroedd o geblau, peipiau a gwifrau newydd.
Ond cyn hynny mae angen i Senedd Prydain roi sêl bendith i’r gwaith.
Bydd angen cynnydd o 66% yn y Grant Sofraniaeth, sef yr arian sy’n cael ei wario ar ddyletswyddau swyddogol Y Teulu Brenhinol.
Bydd y gwario mawr yn sicrhau bod y palas yn “fit for purpose” hyd nes 2067 yn ôl y ‘Master of The Queen’s Household’ Tony Johnstone-Burt.