Theresa May (o'i gwefan)
Fe allai’r Deyrnas Unedig orfod parhau i dalu arian i’r Undeb Ewropeaidd am gymaint â deng mlynedd ar ôl dechrau’r broses adael.

Dyna rybudd Gweinidog Ariannol yr Almaen wrth i Brif Weinidog gwledydd Prydain, Theresa May, baratoi i gwrdd ag arweinwyr Ewropeaidd eraill ac Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Fe fydd rhaid i’r Deyrnas Unedig barhau i dalu cyfraniad i’r Undeb nes y bydd y broses adael wedi ei gorffen yn llwyr, meddai Wolfgang Schauble, ac fe llai hynny barhau hyd at 2030.

Roedd hefyd yn mynnu na fyddai dim lleihau ar hawliau pobol i symud os oedd y Deyrnas Unedig am aros yn rhan o’r farchnad rydd.

“Does dim meniw a la carte,” meddai. “Dim ond un meniw, neu ddim.”

Y cyfarfod heddiw

Fe fydd y Prif Weinidog, Theresa May, ac arweinwyr Ewropeaidd eraill yn cwrdd â’r Arlywydd Obama heddiw wrth iddo barhau gyda’i daith ffarwél ar draws y byd.

Y Dwyrain Canol ac ymladd y mudiad milwrol eithafol, ISIS, fydd y prif bwnc ond mae Brexit hefyd yn debyg o godi ar y cyrion.

Yr addewid yw y bydd y Deyrnas Unedig yn dechrau’r broses adael ym mis Mawrth.