Bu i Aelodau Seneddol wario bron i £640,000 ar ddiogelwch personol yn dilyn llofruddio Joe Cox, yn ystod y misoedd rhwng Mehefin a Hydref eleni.

Mae yn gynnydd anferthol ar y £160,000 a gafodd ei wario ar ddiogelwch ASau yn y flwyddyn ariannol 2015-16.

Fe ymosodwyd ar yr AS Joe Cox o flaen ei staff yn Birstall, Leeds, wythnos cyn y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin.

Yn ôl Ipsa, y corff sy’n rheoli taliadau i ASau, fe gafodd 66 o Aelodau Seneddol becynnau diogelwch “uwch” yn dilyn llofruddio Jo Cox, sydd yn gallu golygu bod yr heddlu yn credu fod yr ASau hyn mewn fwy o berygl.

Mae Thomas Mair, 53, wedi ei gyhuddo o saethu a thrywanu Jo Cox ac mae’r achos llys yn digwydd ar hyn o bryd yn yr Old Bailey yn Llundain.