Mae llefarydd ar ran arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi wfftio honiadau ei fod e’n dawnsio ger cofeb rhyfel cyn gwasanaeth Sul y Cofio y bore ma.

Yn ôl y Daily Mail, roedd Corbyn yn dawnsio wrth iddo siarad â chyn-filwr ger y Senotaff yn Whitehall yn Llundain.

Ond mae llefarydd ar ran Corbyn yn dweud bod y llun wedi cael ei dorri ar gyfer yr erthygl.

“Doedd Jeremy ddim yn dawnsio. Roedd e’n gwneud ystumiau wrth iddo siarad â’r cyn-filwr o’r Ail Ryfel Byd, George Durack.”

Dywedodd y llefarydd fod y blaid yn ystyried codi’r mater gyda Sefydliad Annibynnol Safonau’r Wasg (IPSO).