Mae aelod blaenllaw o lywodraeth y Weriniaeth Tsiec wedi mynegi pryder am y cynnydd mewn ymosodiadau ar ddinasyddion ei wlad ym Mhrydain ers y bleidlais Brexit ym mis Mehefin.

Dywed Tomas Prouza, ysgrifennydd materion Ewropeaidd y Weriniaeth Tsiec, fod y digwyddiadau yn cymharu â thwf ffasgaeth yn yr 1930au, ac mae’n feirniadol o’r Prif Weinidog Theresa May o beidio â gwneud mwy i’w hatal.

Mae o’r farn fod y cynlluniau a gafodd eu cyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd i orfodi cwmnïau i wneud rhestr o weithwyr tramor yn ennyn teimladau yn erbyn mewnfudwyr ym Mhrydain.

“Mae hyn yn debyg iawn i’r hyn a welwyd ar y cyfandir yn yr 1930au,” meddai.

“Dw i’n meddwl ein bod ni i gyd yn cofio beth wnaeth ddeillio o hynny. Felly dw i’n meddwl fod hyn yn beryglus iawn, ac ro’n i’n gobeithio y byddai’r Prif Weinidog May yn condemnio’r syniadau hyn hyn yn gyflym iawn. Mae’n ofid nad yw hyn wedi digwydd.

“Ar hyn o bryd mae angen inni gefnogi diogelwch Tsieciaid, oherwydd rydym wedi gweld cynnydd anferthol mewn ymosodiadau ar Tsieciaid a thramorwyr eraill ar dir Prydain.”