Keith Vaz, AS Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad i weld a yw’r AS Llafur Keith Vaz wedi troseddu yn erbyn Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971.

Mae hyn yn dilyn honiadau mewn adroddiad yn y Sunday Mirror ddechrau mis Medi amdano’n cyfarfod puteiniaid gwrywaidd. Fe fu’n rhaid iddo roi’r gorau i gadeirio Pwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin yn sgil yr adroddiad.

Yn ôl y Sunday Mirror, roedd AS Dwyrain Caerlŷr wedi cael sgwrs ynghylch cocên gydag un o’r puteiniaid, pryd y dywedodd nad oedd arno eisiau defnyddio’r cyffur ei hun, ond gan awgrymu’r un pryd y byddai’n talu am gyffur i’r dyn arall.

Yn dilyn yr adroddiad, fe fu galwadau ar yr heddlu i ymchwilio a oedd Keith Vaz wedi camymddwyn mewn swydd gyhoeddus a chynllwynio i gyflenwi nwyddau gwaharddedig.