Nick Lowles
Mae mudiad sy’n gwrthwynebu hiliaeth wedi rhybuddio y gallai trais hiliol a bwlian fod ar gynnydd yng ngwledydd Prydain, yn dilyn buddugoliaeth Donald Trump yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r grŵp ‘Hope not Hate’ yn dweud fod grwpiau asgell dde eithafol wedi dod yn fwy ymosodol ers refferendwm Brexit ac yn dilyn ymgyrch arlywyddol Donald Trump. Mae’n rhybuddio hefyd rhag i syniadau’r grwpiau hyn gael eu mabiwysiadu gan y brif ffrwd wleidyddol.

Roedd Donald Trump wedi ennyn ymateb chwyrn yn ystod yr ymgyrch arlywyddol pan ddywedodd y byddai’n gwahardd Mwslimiaid rhag cael mynediad i’r Unol Daleithiau, a galw pobol Mecsico yn dreiswyr. Mae grwpiau asgell dde eithafol fel Britain First, the English Defence League a’r British National Party wedi cefnogi ymgyrch y biliwnydd ers y dechrau.

Ar gyfrif Facebook, mae EDL wedi postio llun o ddyn croen olewydd gyda barf yn crïo, gyda’r slogan, “Dyma Fwslimiaid ledled America heddiw”. Mewn neges drydar gan y BNP, fe ddywedwyd fod “buddugoliaeth Donald Trump yn golygu fod gan Brydain ffrind yn y Tŷ Gwyn”.

Cyfnod gofidus iawn

“Yr ydym yn byw mewn cyfnod gofidus iawn,” meddai Prif Weithredwr ‘Hope Not Hate’, Nick Lowles.

“Mae buddugoliaeth Trump, mor fuan ar ôl pleidlais Brexit, wedi esgor ar don o hiliaeth ac anoddefgarwch, ac mae’n annog yr asgell dde eithafol i fod fwy hy’ ac ymosodol.

“Yr hyn sy’n fwy gofidus,” meddai wedyn, “yw’r modd y mae syniadau asgell dde eithafol yn cael eu mabiwysiadu i’r prif ffrwd gwleidyddol, ac os nad ydynt yn methu ennill grym, fe fydd ei syniadau yn llwyddo.”

Roedd arweinydd asgell dde eithafol yn Ffrainc, Marine Le Pen, ymhlith y cyntaf o wleidyddion byd i longyfarch Donald Trump, ac mae Nik Lowles yn darogan cynnydd mewn cefnogaeth i bleidiau eithafol ledled Ewrop.

“Fe fyddwn hefyd yn gweld cynnydd mewn cefnogaeth i bleidiau ledled Ewrop wrth i’r etholiadau yn Awstria, Ffrainc, Yr Almaen, Denmarc gael eu cynnal.”