Mae dyn yn wynebu carchar ar ôl pledio’n euog i droseddau terfysgol a cheisio teithio i Syria.

Mewn gwrandawiad yn llys yr Old Bailey, fe blediodd Jabed Hussain o Orllewin Llundain yn euog i ddau gyhuddiad, o baratoi gweithred derfysgol neu gynorthwyo gyda gweithred derfysgol rhwng 2015 a 2016.

Fe gafodd Jabed Hussain ei stopio gan awdurdodau ar y ffin yn Nhwrci pan geisiodd groesi am y tro cynta’ i Syria. Fe gafodd ei ail ymgais i deithio i Syria ei atal pan oedd ar fin gadael gwledydd Prydain.

Fe fydd Jabed Hussain yn cael ei ddedfrydu ar Ragfyr 16, ond mae’r Barnwr Anuja Dhir eisoes wedi datgan fod cyfnod o garchar “yn anochel”.