Mae bachgen 16 oed wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio, yn dilyn adroddiadau bod ei fam wedi cael ei thrywanu.

Mae’r ddynes, yn ei 40au, yn dal i fod yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad yn Woking ddydd Gwener.

Fe ymddangosodd y bachgen gerbron ynadon Redhill ddydd Sadwrn, ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos gerbron Llys Ieuenctid Guildford ar Dachwedd 9.