Mae dau o blant a dyn wedi’u canfod yn farw mewn tŷ yng Sir Gaerlŷr yn dilyn adroddiadau o ffrwgwd.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Hinckley am 9.30yh nos Fawrth gan fod cymdogion yn bryderus am les rhai o’r preswylwyr.

Gwnaethpwyd cysylltiad gyda dyn a dynes yn y tŷ, ac yn oriau mân for Mercher fe aed â’r ddynes i’r ysbyty.

Nid yw achos y marwolaethau yn hysbys eto, ond dyw’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.