Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn marwolaeth milwr yn ystod ymarferiad yn yr Alban.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle RAF Tain yn Inverness am 5.55 nos Fawrth, ond roedd wedi marw erbyn iddyn nhw gyrraedd.

Daeth cadarnhad ei fod yn aelod o’r Fyddin.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd a gafodd unrhyw un arall anafiadau yn dilyn y digwyddiad, ac mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad.

Yr Awyrlu a’r Fyddin sy’n defnyddio’r safle yn Dornoch Firth, ac mae arno leiniau saethu a bomio.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn y byddai rhagor o fanylion yn cael eu rhyddhau maes o law.

Milwyr yn marw… 

Eisoes eleni, mae nifer o filwyr wedi cael eu lladd yn ystod ymarferiadau yng ngwledydd Prydain.

Ar Awst 22, cafodd Conor McPherson, 24, ei saethu’n far war safle Otterburn yn Northumberland.

Ar Orffennaf 19, cafodd Joshua Hoole, 26 o Ecclefachan ger Lockerbie, ei ladd yn ystod ymarferiad ym Mannau Brycheiniog.