Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw bachgen 13 oed y cafwyd hyd i’w gorff yn dilyn tân mewn sied yn Doncaster.

Bu farw Jack Sheldon yn dilyn y tân yn ei gartref yn ardal Campsall yn Ne Swydd Efrog nos Iau.

Mae lle i gredu ei fod yn chwarae ag injân betrol pan gafodd ei ladd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 9 o’r gloch yn dilyn adroddiadau bod sied ar dân, ac fe ddaethon nhw o hyd i’w gorff ar ôl diffodd y fflamau.

Mae’r heddlu a’r gwasanaeth tân yn cynnal ymchwiliad ar y cyd.