Mae cwmni ceir Nissan wedi rhoi hwb i weithwyr yn ei ffatri yng ngogledd ddwyrain Lloegr, gyda’r cyhoeddiad eu bod am adeiladu model newydd o’u ceir yn Sunderland.

Roedd pryderon dros ddyfodol y ffatri ar ôl i wledydd Prydain bleidleisio tros adael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd ofnau fod cyd-berchennog Nissan, y gwneuthrwyr o Ffrainc, Renault, wedi codi amheuon y byddai’r ffatri yn symud i Ffrainc er mwyn osgoi unrhyw dariff.

Fe fydd y cyhoeddiad gan y cwmni o Siapan yn sicrhau miloedd o swyddi, gan ddod fel penderfyniad cynta’ ers y refferendwm.

Roedd pennaeth Cwmni Nissan, Carlos Ghosn wedi cyfarfod Prif Weinidog, Theresa May, ddechrau’r mis i drafod y mater.

Croesawodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron ond mynnodd fod “ hi’n chwerthinllyd fod Theresa May wedi gorfod rhoi sicrwydd arbennig i wneuthurwyr ceir yn dilyn y refferendwm i adael yr Undeb Ewrop. “

Ychwanegodd, “Os yw’r Llywodraeth o ddifrif am warchod swyddi ym Mhrydain, fe fyddai’n ymladd i barhau yn rhan o’r farchnad sengl.”

Addewid o iawndal

Fe wrthododd Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth Prydain, Greg Clark i gadarnhau naill ffordd na’r llall fod Cwmni Nissan wedi derbyn addewid o iawndal gan Llywodraeth Prydain petai tariff ychwanegol yn wynebu’r cwmni o ganlyniad i’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd y ffatri yn Sunderland ei agor yn 1986, ac mae’n cyflogi 7,000 o bobl gan gynhyrchu 2,000 y dydd.

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Canghellor yr Wrthblaid, John McDonnell fod diffyg eglurder o ran lefel y gefnogaeth y mae’r Llywodraeth wedi ei gynnig i Gwmni Nissan.

“Mae’n gwbl ddidrefn ar hyn o bryd.  A ydyn nhw nawr am benderfynu, fesul ffatri, y maent gefnogaeth y maent am ei roi?”