Maes awyr Heathrow Llun: PA
Mae penderfyniad Theresa Mai i gefnogi cynlluniau i ehangu maes awyr Heathrow wedi corddi’r dyfroedd ymhlith y Ceidwadwyr.

Fe arweiniodd at feirniadaeth gan weinidogion y Cabinet ac ymddiswyddiad yr Aelod Seneddol ac amgylcheddwr blaenllaw, Zac Goldsmith.

Mae disgwyl i gynghorau Ceidwadol gefnogi camau cyfreithiol i herio’r cynlluniau am drydedd lain lanio yn Heathrow ac mae’r Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson yn mynnu nad yw’r cynllun yn weithredol.

Bu’n rhaid i’r Ceidwadwyr gyhoeddi na fyddai’r blaid yn brwydro’r isetholiad a fydd yn cael ei gynnal yn sgil ymddiswyddiad Zac Goldsmith.

Roedd ei etholaeth yn Richmond Park a gogledd Kingston yn nwylo’r Democratiaid Rhyddfrydol hyd at 2010 ac fe fyddai hollti’r bleidlais Geidwadol yn caniatáu iddyn nhw adennill y sedd.

Dywedodd Zac Goldsmith bod y penderfyniad i fwrw mlaen a’r llain lanio newydd yn “drychinebus” ac mae wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol.

Ychwanegodd nad yw’r frwydr ar ben ac y byddai’r isetholiad yn gyfle i “anfon neges at y llywodraeth.”

Mae’n dadlau bod cymhlethdodau’r cynllun, ynghyd a’r gost a’r anawsterau cyfreithiol yn golygu ei bod “yn annhebygol y bydd yn cael ei weithredu.”

Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus nawr yn cael ei gynnal i effaith y cynllun yn y maes awyr yng ngorllewin Llundain cyn i ASau bleidleisio ar y mater yn ystod y gaeaf yn 2017/18.