Mae disgwyl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May, gyhoeddi heddiw a fydd maes awyr Heathrow yn cael trydedd llain lanio ai peidio.

Fe ddaw’r cyhoeddiad ar ddiwedd dros flwyddyn o ansicrwydd, wed i i Gomisiwn Davies argymell y dylid codi rhedfa newydd yn y maes awyr ger Llundain. Yr opsiynau eraill ar y bwrdd ydi ymestyn llain lanio yn Heathrow, neu adeiladu ail rynwe yn Gatwick.

Theresa May fydd yn cadeirio cyfarfod heddiw o’r is-bwyllgor maes awyr, sy’n cynnwys y Canghellor, Philip Hammond; yr Ysgrifennydd Busnes, Greg Clark; ynghyd ag Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Andrea Leadsom.

Yn dilyn y cyfarfod, fe fydd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Chris Grayling, yn gwneud datganiad i Aelodau Seneddol o gwmpas canol dydd.