Mae’r Aelod Seneddol Ewropeaidd Paul Nuttall wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu herio Suzanne Evans yn y ras i fod yn arweinydd UKIP.

Dywedodd Nuttall wrth raglen ‘Sunday Politics’ y BBC fod y blaid yn wynebu “argyfwng” ac y gallai ddiflannu oni bai ei bod yn unedig.

“Dw i wedi gwneud y penderfyniad y bydda i’n cyflwyno fy enw i fod yn arweinydd nesaf UKIP.

“Mae gen i gefnogaeth fawr ledled y wlad, nid yn unig ymhlith pobol ar frig y blaid yn San Steffan ac ymhlith ASau ond hefyd ar lawr gwlad.

“A dw i eisiau sefyll ar sail bod yn ymgeisydd tros undod – mae angen i UKIP ddod ynghyd.”

Ychwanegodd fod UKIP “yn edrych dros y dibyn ar hyn o bryd” ond ei fod yntau am fod “ar y cae er mwyn cicio’r bêl i gefn y rhwyd agored sydd gyda ni yng ngwleidyddiaeth Prydain”.