Diane James, arweinydd blaenorol Ukip - ai Suzanne Evans fydd yn ei holynu?
Mae Suzanne Evans wedi addo creu plaid UKIP llai “gwenwynig” wrth gyhoeddi ei bod hi’n sefyll fel ymgeisydd yn y ras am yr arweinyddiaeth.

Daeth rhybudd gan Evans fod y blaid mewn perygl o droi’n “Trump-aidd” o dan Nigel Farage gan fynnu nad oes lle i’w fath ef o wleidyddiaeth yn y DU.

Mae un o brif fuddsoddwyr y blaid, Arron Banks eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i Raheem Kassam ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Dywedodd Suzanne Evans wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Dydy ein dyfodol fel plaid wleidyddol ym Mhrydain ddim yn yr asgell dde eithaf. Dw i ddim yn gweld llwyth o safbwyntiau yn y wlad hon sy’n galw am bolisïau mwy asgell dde.”

Ychwanegodd ei bod hi’n disgwyl i Raheem Kassam fynd â’r blaid ymhellach i’r dde “ond dydy ein haelodau ddim eisiau hynny”.

“Ry’n ni fel UKIP wedi cael cryn dipyn o feirniadaeth oherwydd ry’n ni wedi cael delwedd ychydig yn fwy gwenwynig nag y dylen ni fod wedi’i chael.

“Ac mae ein haelodau, y rhai sy’n ymgyrchu, wedi teimlo hynny’n bennaf – cael eu sarhau, a dioddef ymosodiadau corfforol a geiriol ar y stryd.”

Daw ail gyfle i Evans i arwain y blaid ar ôl iddi golli cyfle blaenorol ar ôl cael ei diarddel.

Ond mae’n cyfaddef nad yw hi’n sicr o gael cefnogaeth Nigel Farage.

“Dw i ddim yn gwybod a fydd e’n fy nghefnogi ond dydy hynny ddim yn bwysig oherwydd ry’n ni’n symud i gyfeiriad gwahanol nawr.”

Wfftiodd Evans adroddiadau bod y blaid yn wynebu trafferthion ariannol, gan ddweud y gallai’r blaid oroesi heb gefnogaeth Arron Banks.

Mae Kassam wedi ymateb i sylwadau Evans gan ddweud: “Mae’n drist ei bod hi, 60 eiliad ar ôl lansio’i hymgyrch ar y BBC, wedi ymosod arna i a miloedd o ‘nghefnogwyr fel rhai ‘asgell dde eithafol’.

“Dyma dacteg ‘prosiect ofn’ ac mae Ukipers wedi syrffedu…”