Mae undebau’n galw ar Lywodraeth Prydain i beidio â gwneud toriadau pellach i drafnidiaeth yn Llundain yn dilyn digwyddiad ar drên tanddaearol Llundain ddydd Iau.

Yn ôl undebau RMT, y TSSA ac Aslef, dylai cyllido trafnidiaeth Llundain fod yn flaenoriaeth ar ôl i ddyn 19 oed gael ei arestio yng Ngogledd Greenwich ar ôl i becyn amheus gael ei ddarganfod mewn gorsaf ger canolfan O2.

Mae’r heddlu wedi cael rhagor o amser i’w holi am y digwyddiad.

Dechreuodd y toriadau gwerth £700 miliwn fis Tachwedd diwethaf o dan y Canghellor blaenorol, George Osborne wrth iddo fynnu bod rhaid i’r gwasanaeth fod yn hunangynhaliol erbyn 2020.

Dywedodd arweinydd y TSSA, Manuel Cortes fod gan aelodau “bryderon go iawn” ynghylch israddio gwasanaethau.

“Dydyn ni ddim wedi bod eisiau achosi pryder na phanig ymhlith y cyhoedd sy’n teithio yn Llundain ynghylch israddio camau diogelwch ar drenau tanddaearol Llundain.

“Ond mae’r digwyddiad ddydd Iau ar linell Jubilee yng Ngogledd Greenwich, er ei fod yn un diniwed y tro hwn, wedi amlygu tyllau a mannau cudd pellach yn y camau diogelwch ar y Tiwb nad oedden ni hyd yn oed wedi dechrau gofidio amdanyn nhw.

“Dydy camau diogelwch oedd yn eu lle y llynedd ddim yno bellach. Dydyn nhw ddim wedi goroesi rownd gynta’r toriadau.

“Gêm o ‘Russian Roulette’ gan y Trysorlys gyda diogelwch y cyhoedd fyddai rhagor o doriadau.”

Ychwanegodd ysgrifennydd cyffredinol Aslef, Mick Whelen y dylai Llywodraeth Prydain a’r Canghellor newydd, Philip Hammond “gywiro camgymeriadau’r llywodraeth ddiwethaf”.

“Mae gan Philip Hammond gyfle i helpu i wneud trigolion Llundain yn fwy diogel – a dyna ddylai ei wneud heb oedi.”

Ychwanegodd ysgrifennydd cyffredinol yr RMT, Mick Cash fod israddio gwasanaethau’n “weithred o anghyfrifoldeb troseddol” ac o “fandaliaeth” ar ran y Llywodraeth.