Mae Cheryl Fernandez-Versini – sy’n enwog am ganu efo’r grwp Girls Aloud a beirniadu ar The X Factor – wedi ysgaru ei hail ŵr, y perchennog bwyty Jean-Bernard Fernandez Versini.

Mi briodon nhw yn ddistaw bach ar draeth Ynys Mustique yn y Caribi yn 2014 ar ôl canlyn am dri mis.

Fe gafodd y pâr ‘decree nisi’ gan farnwr mewn Llys Teulu yn Llundain heddiw mewn gwrandawiad wnaeth bara 14 eiliad. Doedd yr un o’r ddau yn bresennol.

Bellach mae Cheryl Fernandaez-Versini yn canlyn Liam Payne o’r band One Direction.

Bu’n briod â’r chwaraewr pêl-droed Ashley Cole am bedair blynedd cyn iddyn nhw ysgaru yn 2010.