Barics Deepcut
Mae barnwr i benderfynu a ddylai cwest newydd gael ei gynnal i farwolaeth milwr ifanc ym marics Deepcut 21 mlynedd yn ôl.

Cafwyd hyd i Sean Benton o Hastings, Dwyrain Sussex, wedi ei saethu bum gwaith yn ei frest ym mis Mehefin 1995 tra’n hyfforddi i fod yn filwr yn safle’r fyddin yn Surrey.

Naw’r mae ei deulu wedi cael caniatad y Twrnai Cyffredinol i wneud cais am wrandawiad newydd.

Mae’r datblygiad diweddaraf wedi bod yn bosib ar ôl i fam Sean Benton, Linda, ddefnyddio’r Ddeddf Hawliau Dynol i gael mynediad i dystiolaeth sy’n cael ei ddal gan Heddlu Surrey cyn ei marwolaeth y llynedd,

Dim ond dwy awr oedd hyd y cwest gwreiddiol i farwolaeth y dyn 20 mlwydd oed gan glywed tystiolaeth gan chwech o bobl. Cofnodwyd rheithfarn o hunanladdiad ac ni ddaeth ymchwiliad troseddol saith mlynedd yn ddiweddarach o hyd i unrhyw dystiolaeth bod trydydd parti wedi bod yn rhan o’r digwyddiad.

Cheryl James

Sean Benton oedd y cyntaf o bedwar milwr ifanc i farw yn y barics rhwng 1995 a 2002.

Laddodd Cheryl James, 18, o Langollen ei hun ym mis Tachwedd 1995 yn ôl ail gwest i’w marwolaeth a ddaeth i ben ym mis Mehefin eleni.

Bu farw Geoff Gray, 17 oed o Hackney, dwyrain Llundain, oherwydd iddo gael ei saethu ddwywaith yn ei ben yn 2001 a cafodd James Collinson, 17, o Perth, ei saethu unwaith trwy ei ên yn 2002.