Mae ffrae wedi dwysau rhwng cwmni nwyddau Unilever ac Archfarchnad Tesco am brisiau nwyddau adnabyddus.
Mae Cwmni Unilever yn honedig wedi gorchymyn am 10% o godiad mewn prisiau ar eu nwyddau sy’n cael eu gwerthu i Archfarchnad Tesco o ganlyniad i gwymp yng ngwerth y bunt. Mae Tesco wedi gwrthod y cynnydd gan achosi i’r siop fod yn brin o fwydydd fel Marmite, menyn Flora a phowdwr golchi Persil.
Mae Cwmni Unilever sydd wedi leoli yn yr Iseldiroedd ymhlith y cwmnïau cynhyrchu mwya’ yn y byd.
Nid oedd Unilever yn barod i roi sylw ar y ffrae ond fe wnaeth y prif weithredwr Paul Polman rybuddio ym mis Mehefin y byddai’r bleidlais o blaid gadael marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd yn codi prisiau a fyddai’n effeithio ar y cwsmer.
Ai Sainsbury’s fydd nesa’?
Dywedodd llefarydd ar ran Archfarchnad Tesco, “Rydan ni’n ei chael hi’n anodd gwerthu nifer o gynnyrch Unilever. Yr ydym yn gobeithio y gallwn ddatrys y broblem yn fuan.”
Daeth y ffrae hon oriau ar ôl gyn bennaeth Archfarchnad Sainsbury’s, Justin King dddweud y dylai siopwyr ddisgwyl cynnydd mewn prisiau ar ôl cwymp yng ngwerth y bunt ers pleidlais Brexit.
Rhybuddiodd y byddai’n anodd i archfarchnadoedd amsugno’r cynnydd yn y gost mewn nwyddau wedi’u mewnforio, gyda’r cwsmer yn gorfod cymryd y glec.
Wrth siarad mewn cynhadledd ddoe, dywedodd, “Does yr un busnes eisiau bod y cyntaf i feio Brexit am yn cynnydd mewn prisiau. Ond pan fydd rhywun, fe fydd yna nifer o gwmniau yn dod gan ddweud eu bod i gyd yn diodde’.”